Gwesty Hamdden y Celtic Manor

Lle braf sy'n ymestyn dros 1400 Erw

Mae'r Celtic Manor yn gyrchfan sydd gyda'r gorau yn y byd ac mae'n cynnig cyfleusterau golff a hamdden eithriadol. Mae'r awyrgylch yn foethus anffurfiol a'r gwasanaeth o'r radd flaenaf. Fe'I lleolir mewn 1400 erw o barcdir panoramig yng nghanol harddwch Cwm Wysg

Ychydig o gyrchfannau yn Ewrop sy'n meddu ar gyfleusterau mor amrywiol ac mor gyflawn â'r Celtic Manor. Dyma leoliad Cwpan Ryder 2010 a chartref Cystadleuaeth Agored Celtic Manor Cymru. Ar y safle, ceir dau westy - Gwesty Hamdden pum seren gyda 300 o lofftydd, 32 llofft foethus gyda lolfa a Maenordy hanesyddol o'r 19fed Ganrif lle ceir 70 o lofftydd. Mae yma hefyd Ganolfan Gynadledda o'r math diweddaraf un, Neuadd Arddangos, 31 o ystafelloedd i gynnal digwyddiadau, 4 bwyty, cyrsiau golff o safon pencampwriaeth, Academi Golff gyda'r gorau yn y byd, clwb golff gwych - Y 'Lodge', 2 glwb iechyd a 2 sba foethus.

I weld mwy o dudalennau yn yr iaith yma, cliciwch y faner briodol ar frig ochr dde'r dudalen.


Cancel